top of page

Sculptural Prosthetic Limbs.

 ‘… a prosthesis no longer has to represent the need to restore a loss; it can be a symbol

that the bearer has the power to create what he or she wants to create in this gap. People who were earlier seen as disabled can become architects of their own identity’(Mullins 2009)

Geiriau Aimee Mullins, cyn athletwr Paralympaidd a gafodd dorri ei dwy goes yw’r rhai uchod a gwrando arni hi’n siarad am ei phrofiadau oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect hwn yn y pen draw. Mae gen i ddiddordeb mewn celf sydd, ynghyd â bod o werth esthetig, yn gallu gweithio o blaid yr unigolyn neu’r gymuned.

 

Roeddwn yn dilyn edefyn o ymchwil yn ymwneud â phrosthetig arbenigol pan ddeuais ar draws Mullins a’i ‘siwtces o goesau’ (Mullins, A (2009). Roedd hi o’r farn y dylai ei choesau berfformio nid yn unig fel coesau prosthetig ond hefyd fel pethau ffasiynol addas ar gyfer gwahanol achlysuron.

 ​

Mae fy ngwaith yn ymchwilio i’r potensial prosthetig, wedi’u dylunio a’u creu ar argraffydd 3D gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, wedi eu gwneud gydag ystyriaethau esthetig mewn golwg.

 

Dechreuodd fy ngwaith gyda'r syniad o brosthetig arbenigol a ystyrir, gan y gwisgwr ac eraill fel gwrthrychau sy’n esthetig drwsiadus yn ogystal ac ymarferol.

 

Wrth i’r syniadau hyn symud ymlaen a datblygu fe ddechreuais ragweld cerflun prosthetig a fyddai’n gweithio’n weledol, ar y corff ac oddi arno, wedi’i greu gan ddefnyddio argraffydd 3D.

 

Mae’r prosiect wedi llwyddo i greu cerflun prosthetig mewn cydweithrediad â gwisgwr sy’n rhannu fy ngweledigaeth.

 

Yma, mae technoleg wedi ein galluogi ni i herio fframwaith corfforol y corff dynol fel cynhwysydd angenrheidiol a gwerthfawrogi’r posibiliadau newydd a allai orwedd y tu hwnt i’n ffurfiau dynol. Mae’r dechnoleg hefyd wedi creu’r rhyddid ar gyfer cydweithio ar draws y byd, gyda rhannau o’r cerflun wedi eu hargraffu yn Siapan.

bottom of page